Rosa Luxemburg

Roedd Rosa Luxemburg (Pwyleg: ''Róża Luksemburg'') (5 Mawrth 187115 Ionawr 1919) yn feddyliwr Marcsaidd a chwyldroadwraig Iddewig, yn enedigol o Wlad Pwyl.

Ganed hi yn Zamość ger Lublin, Gwlad Pwyl, yn ferch i farsiandïwr coed. Cymerodd ran mewn mudiadau adain-chwith, a bu raid iddi ffoi i'r Swistir yn 1889, lle astudiodd ym Mhrifysgol Zürich. Yn 1898, priododd Gustav Lübeck, a symudodd i Berlin. Bu'n flaenllaw mewn nifer o bleidiau ar y chwith yn yr Almaen, a sefydlodd gylchgrawn o'r enw ''Die Rote Fahne'' (Y Faner Goch). Gyda Karl Liebknecht, sefydlodd y Spartakusbund, grŵp a ddaeth yn Blaid Gomiwnyddol yr Almaen yn nes ymlaen. Ym mis Ionawr 1919 cymerodd ran mewn gwrthryfel aflwyddiannus yn Berlin. Cymerwyd Luxembourg yn garcharor a'i saethu; taflwyd ei chorff i Gamlas Landwehr, Berlin.

Rosa Luxemburg.jpg|Rosa Luxemburg Zetkin luxemburg1910.jpg|Clara Zetkin (chwith) a Rosa Luxemburg ar eu ffordd i Gyngres yr SPD, Magdeburg, 1910 Rosa Luxemburg ND2.JPG|Cerflun gan Rolf Biebl yn Franz-Mehring-Platz, Friedrichshain, Berlin. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 6 canlyniadau o 6 ar gyfer chwilio 'Luxemburg, Rosa', amser ymholiad: 0.04e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Luxemburg, Rosa
    Cyhoeddwyd 1976
    Rhif Galw: FC-Lux 10
    Llyfr
  2. 2
    gan Luxemburg, Rosa
    Cyhoeddwyd 1974
    Rhif Galw: FC-Lux 3 - 8
    Llyfr
  3. 3
    gan Luxemburg, Rosa
    Cyhoeddwyd 1989
    Rhif Galw: FC-Lux 7
    Llyfr
  4. 4
    gan Luxemburg, Rosa
    Cyhoeddwyd 1951
    Rhif Galw: FC-Lux 1 / 002
    Llyfr
  5. 5
    gan Luxemburg, Rosa
    Cyhoeddwyd 1951
    Rhif Galw: FC-Lux 1 / 001
    Llyfr
  6. 6
    gan Luxemburg, Rosa
    Cyhoeddwyd 1951
    Rhif Galw: [mehrbändig! Sign. s. bei den Bänden]
    Llyfr