Robert Capa
Ffotograffydd rhyfel oedd Robert Capa (22 Hydref 1913 – 25 Mai 1954). Fe'i ganed yn Budapest, Hwngari. Roedd ei waith yn cwmpasu pum rhyfel gwahanol gan gynnwys Rhyfel Cartref Sbaen a'r Ail Ryfel Byd.Daeth yn enwog drwy'r byd yn 1936 am y llun "Falling Soldier/Muerte de un Miliciano" o'r milwr a saethwyd yn ei ben yn syrthio'n farw. Mae amheuaeth ynghylch dilysrwydd y llun erbyn hyn ond erys yn llun eiconig o gyfnod Rhyfel Cartref Sbaen.
Tynnodd ei luniau enwocaf o'r Ail Ryfel Byd ar 6 Mehefin 1944 (D-Day) ar ôl nofio i'r lan gyda'r ail don o filwyr a laniodd ar draeth Omaha. Tynnodd 106 o luniau ond yn dilyn camgymeriad gan aelod o staff yr ystafell dywyll y cylchgrawn ''Life'' yn Llundain, dim ond wyth llun a welodd olau dydd.
Yn 1947, ar y cyd â'r ffotograffydd o Ffrainc, Henri Cartier-Bresson ac eraill, sefydlodd Magnum Photos sef yr asiantaeth gydweithredol gyntaf i ffotograffwyr llawrydd ledled y byd.
Bu farw a'i gamera yn ei law ar ôl sefyll ar ffrwydryn tir wrth weithio ar gyfer ''Life'' yn Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina yn ne-ddwyrain Asia. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2